Llinell Gymorth Dementia Cymru
Cefnogi pobl â dementia a’u gofalwyr
Mae’r llinell gymorth yn cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oed, sy’n gofalu am rywun gyda Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu neu gyfeillion.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn helpu ac yn cefnogi’r rhai sydd wedi cael diagnosis o Ddementia.
Sut Gall Llinell Gymorth Dementia Cymru Eich Helpu?
Weithiau byddwch angen clust i wrando’n unig. Gall trafod eich ofnau a theimladau gyda rhywun sy’n deall, ond ddim yn gysylltiedig yn emosiynol fod o gymorth.
Mae gennym gronfa ddata gynhwysfawr o wasanaethau, statudol a gwirfoddol, a all helpu. Gall y gwasanaethau fod yn lleol i chi neu gysylltiadau cenedlaethol, os bydd angen.
Gallwn hefyd anfon taflenni hunangymorth ac asiantaethau atoch, yn rhad ac am ddim. Mae galwadau am ddim ac nid oes raid i chi roi unrhyw wybodaeth
Dechrau
Nodwch eich cod post yn y blwch isod. E.e. LL11. Yna dewiswch Bwnc o'r rhestr a chliciwch y botwm Chwilio unwaith.
Chwilio am asiantaeth